1,(2),3. Wele Iesu, 'r pen rhyfelwr, Yn dod i'r lan o Edom wlad; Ei wisg yn goch, ei fraich yn rymus, A'r ddraig yn glwyfus dan ei draed; Am yr hynod fuddugoliaeth, Canaf enyd ar y llawr, Nes del hyfryd foreu'r canu Draw yn nhragwyddoldeb mawr. [DW] Filwyr Seion! cym'rwn galon, Gwisgwn arfau'r nef yn llawn; Byddwn gedyrn yn y frwydr, Tra parhao'n byr brydnawn: Y mae hyfryd foreu tawel, Rhanu'r ysbail, bron gerllaw; Melus seiniwn fuddugoliaeth Cyn bo hir yr ochr draw. [An] Cadben mawr ein hiechydwriaeth, Welaf yn y frwydr hon: Holl elynion ei ddyweddi, 'N gorfod plygu ger ei fron; Plant afradlon sy'n dod adref, A fu 'mhell o dir eu gwlad; Y rhai fu'n fudion sy'n clodfori Duw am iachawdwriaeth rad. [MR] hiechydwriaeth :: hiachawdwriaeth Holl elynion :: A gelynion Y rhai :: Rhai Duw :: Draw, - - - - - Wele Iesu'r pen rhyfelwr 'Nawr yn d'od o Edom wlad! Coch ei wisg, a'i fraich yn rymmus, Draig yn glwyfus dan ei dra'd: Am yr hyfryd fuddugoliaeth Canaf ronyn ar y llawr, Hyd nes gwawrio'r hyfryd fore Cana'i'n nhrag'wyddoldeb mawr. [DW] Clod i'r Iesu yn drag'wyddol Am ei ryfedd gariad rhad; Buddugoliaeth, buddugoliaeth, Gaed yn berffaith yn ei wa'd; Nerthoedd uffern a orchfygodd, Angau faeddwyd ganddo ef; Yn oes oesoedd caiff ei foli, A'i glodfori yn y nef. [DW] - - - - - Wele Iesu'r pen rhyfelwr 'Nawr yn d'od o Edom wlad! Coch ei wisg, a'i fraich yn rymmus, Draig yn glwyfus dan ei dra'd: Nerthoedd uffern a orchfygodd, Angau faeddwyd ganddo ef; Yn oes oesoedd caiff ei foli, A'i glodfori yn y nef. [DW] Clod i'r Iesu yn drag'wyddol Am ei ryfedd gariad rhad; Buddugoliaeth, buddugoliaeth, Gaed yn berffaith yn ei wa'd: Am yr hyfryd fuddugoliaeth, Canaf ronyn ar y llawr; Hyd nes gwawrio'r hyfryd fore Cana'i'n nhrag'wyddoldeb mawr. [DW] - - - - - Wele Iesu'r Pen rhyfelwr, 'N dod i'r làn o Edom wlad, Â'i wisg yn goch, a'i fraich yn rymus, A'r ddraig yn glwyfus dàn ei draed: Am yr hyfryd fuddugoliaeth, Câna'm telyn fach yn awr, Hyd nes delo'r hyfryd foreu Y câf finnau'r delyn fawr. [DW]DW: David Williams 1712-94 An: Anhysbys (Cas. Samuel Roberts 1841) MR: Morgan Rhys 1716-79
Thonau [8787D]: gwelir: Capten mawr ein hiachawdwriaeth Milwyr Sion cym'rwn gallon Wele'r Brawd fu dan yr hoelion |
See Jesus, the chief warrior, Coming up from the country of Edom; His clothing red, his arm strong, And the dragon wounded under his feet; For the notable victory, I will sing a while on the earth, Until the lovely morn of singing come Yonder in the great eternity. Soldiers of Zion, take heart! Let us wear the weapons of heaven fully; Let us be firm in the battle, While the shore afternoon lasts: The lovely, quiet morning of Sharing the spoil, is almost at hand; Sweetly let us sound a victory Before long on yonder side. The great Captain of our salvation, I see in this battle: All the enemies of his betrothed, Having to bow before him; Prodigal children are coming home, Who were distant from their country's land; Those who were mute are extolling God for free salvation. :: All enemies :: And enemies :: God :: Yonder, - - - - - See Jesus, the chief warriar Now coming from the land of Edom! Red his clothing, and his arm strong, A dragon wounded under his feet: About the lovely victory I will sing for a while on the earth, Until the lovely morning dawns When I will sing in a great eternity. Praise to Jesus eternally For his wonderful, free love; Victory, victory, Got perfectly in his blood; The forces of hell he overcame, Death was beaten by him; Forever and ever he will be praised, And extolled in heaven. - - - - - See Jesus, the chief warrior, Now coming from the land of Edom! Red his clothing, and his arm strong, A dragon wounded under his feet: The forces of hell he overcame, Death was beaten by him; Forever and ever he will be praised, And extolled in heaven. Praise to Jesus eternally For his wonderful, free love; Victory, victory, Got perfectly in his blood: For the lovely victory, I will sing a while on the earth; Until the lovely morning dawns When I will sing in a great eternity. - - - - - See Jesus, the chief warrior, Coming up from the land of Edom, With his clothing red, and his arm strong, And the dragon wounded under his feet: About the lovely victory, I will play my little harp now, Until the lovely morning comes When I too will play the big harp.tr. 2017 Richard B Gillion |
|